Mae 'Deall eich plentyn' yn gwrs ar-lein i bob rhiant, mamgu a thad-cu a gofalwr plant 0-18 mlwydd oed. Mae’r cwrs hon yn daith drwy wybodaeth. Mae’n adeiladu dull o edrych ar bethau a fydd yn ddefnyddiol i’r mwyafrif o sefyllfaoedd. Felly, mae’n debyg nad yw’r cwrs yn addas i chi os ydych chi dim ond yn edrych am bwt o wybodaeth am bwnc penodol.
Mae rhieni wedi dweud 'Mwynheais i’r cwrs yma’n fawr iawn', 'Mae wedi bod yn ddefnyddiol iawn i mi ac yn ddiddorol’, 'Y £39 gorau dwi erioed wedi gwario!' 'Mae’n araf i ddechrau ac mae yna lawer i’w gymryd i mewn, ond mae wir yn werth dal ati'.
Gallwch chi ymddiried yng nghynnwys y cwrs yma. Mae wedi cael ei ysgrifennu gan Seicolegwyr Clinigol, Seicotherapyddion Plant a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill yn nhîm Solihull Approach. Hefyd mae Nod Ansawdd CANparent Llywodraeth y DU wedi cael ei ddyfarnu iddo.
Mae 11 o Fodiwlau sy’n cymryd tuag 20 munud i’w cwblhau. Mae gweithgareddau rhyngweithiol, cwisiau, a darnau o fideo i gynorthwyo’r dysgu.
O ganlyniad i COVID-19, mae'r TROSLAIS yn y fersiwn Gymraeg ar gyfer y cwrs wedi gorfod cael ei ohurio am y tro. Bydd y fersiwn Gymraeg yn cael ei hychwanegu ar ôl i'r cyfyngiadau gael eu codi. Diolch am eich amynedd a cadwch yn ddiogel.