Mae'r cwrs hwn ar gyfer rhieni, neiniau a theidiau a gofalwyr - i bawb ym mywyd y newydd ddyfodiad sydd am gyrchu cwrs cynenedigol a meithrin perthynas gref, iach gyda'r baban.
Mae'n integreiddio'r wybodaeth draddodiadol a roddir ar gwrs cynenedigol â dull newydd o gychwyn eich perthynas â'ch baban cyn i'ch baban ymddangos hyd yn oed!
Mae'n egluro sut a pham rydych chi mor bwysig i'r baban hwn, p'un a ydych chi'n fam, tad, partner, nain neu daid neu bartner geni.
Mae gan y cwrs gynnwys y gallwch chi ymddiried ynddo. Fe'i datblygwyd gan Fydwragedd Cofrestredig sy'n gweithio gyda Seicolegwyr Clinigol ac Ymwelwyr Iechyd yn nhîm Solihull Approach. Mae ganddo'r un cynnwys â chwrs cynenedigol wyneb yn wyneb Solihull Approach o'r un enw. Mae hyn yn golygu, os bydd un ohonoch chi'n mynd ar y cwrs wyneb yn wyneb a'r llall yn gwneud y cwrs ar-lein y byddwch chi'n cwmpasu'r un deunydd.
Cwrs yw hwn, taith trwy wybodaeth. Os ydych chi'n chwilio am wybodaeth ar bynciau penodol efallai y byddai'n well gennych chi NHS Choices. Mae pob modiwl yn cymryd oddeutu 20 munud i'w gwblhau. Mae gweithgareddau rhyngweithiol, cwisiau a chlipiau fideo. Mae troslais dewisol hefyd.