11 Modules

Deall eich babi (Understanding your baby): Welsh

Get started
 

Ynglŷn â'r cwrs hwn

Mae ‘deall eich babi’ ar gyfer pawb o amgylch babi newydd: yn eich cefnogi chi a’r dyfodiad newydd o’i enedigaeth hyd at 12 mis.

Mae'r cwrs hwn yn rhoi gwybodaeth i chi am ddatblygiad ymennydd eich babi a datblygiad corfforol ac emosiynol eich babi. Mae'n dangos pa mor bwysig yw'ch perthynas â'r babi ar gyfer datblygiad y babi.

Mae'n integreiddio'r wybodaeth draddodiadol a roddir ar gwrs ôl-enedigol â'r dull newydd hwn o ddatblygu'ch perthynas â'ch babi. Mae'n edrych ar opsiynau cysgu, bwydo, crio, chwarae a gofal plant eich babi.

Os ydych chi eisoes wedi gwneud y cwrs cynenedigol Solihull Approach 'Deall beichiogrwydd' efallai y byddwch chi'n adnabod rhai o'r Unedau ynghylch teimladau a chefnogaeth. Efallai yr hoffech chi feddwl am hyn eto, nawr bod eich babi gyda chi. Os ydych chi'n Dad efallai y byddwch chi'n adnabod rhannau o'r Modiwl ar gyfer tadau, ond efallai yr hoffech chi edrych ar yr Unedau eto.

Mae gan y cwrs gynnwys y gallwch chi ymddiried ynddo. Fe'i datblygwyd gan Ymwelwyr Iechyd sy'n gweithio gyda gweithwyr iechyd proffesiynol gan gynnwys Seicolegwyr Clinigol yn nhîm Solihull Approach.

Cwrs yw hwn, taith trwy wybodaeth. Os ydych chi'n chwilio am wybodaeth ar bynciau penodol efallai y byddai'n well gennych chi NHS Choices.

Mae 11 modiwl, pob un yn cymryd oddeutu 20 munud yr un, â thystysgrif ar ddiwedd y cwrs. Mae gweithgareddau rhyngweithiol, cwisiau a chlipiau fideo. Mae troslais dewisol.

Os ydych chi'n gwneud y cwrs ôl-enedigol hwn, mae'n debygol bod babi gyda chi. Ac os oes gennych chi fabi mae'n debyg eich bod chi'n teimlo'n flinedig! Dydyn ni ddim yn argymell eich bod yn gwneud y cwrs hwn ar yr un pryd. Mae llawer i'w amgyffred ac mae'n well ei wneud mewn darnau bach, efallai un Modiwl ar y tro os gallwch chi ymdopi â hynny.

Daliwch ati tan y diwedd gan ein bod ni'n gwybod bod rhieni a neiniau a theidiau yn cael llawer allan o'r cwrs! (A byddwch chi'n cael eich tystysgrif!).


Teacher

John Doe
John is the WordPress teacher at College Name. He has an extensive background in web design and WordPress education, having taught and help run college and high school web programs. You can often find him attending and speaking at local WordCamp meetups.